Achrediad a Diogelwch

Mae Plas Menai bob amser wedi sicrhau’r safonau uchaf mewn diogelwch. Yn ogystal â gweithredu oddi mewn i’r canllawiau a nodir gan y cyrff rheoli cenedlaethol a Bwrdd Croeso Cymru, mae’r Ganolfan wedi’i thrwyddedu dan y Rheoliadau Trwyddedu Gweithgareddau Antur, trwydded sy’n ofynnol gan unrhyw un sy’n darparu gweithgareddau antur ar gyfer pobl ieuainc dan 18 oed. Dylech deimlo’n gwbl fodlon ein bod yn monitro ein gweithdrefnau diogelwch yn rheolaidd ac yn asesu’r risg sy’n gysylltiedig â’r holl weithgareddau a gynigir ym Mhlas Menai.

GIF/RYA

Cymeradwyir Plas Menai fel ysgol fôr ac fe’i cydnabyddir fel canolfan hyfforddi gan y Gymdeithas Iotio Frenhinol, corff rheoli’r DG ar gyfer hwylio, chwaraeon pŵer a gwyntsyrffio.

UCP/CGC

Cymeradwyir Plas Menai fel canolfan hyfforddi gan Undeb Canŵio Prydain / Cymdeithas Ganŵio Cymru, prif gorff y DG ar gyfer caiacio a chanŵio.

ATGA

Dan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgarwch Antur, cymeradwyir a thrwyddedir Plas Menai i ddarparu rhai gweithgareddau penodol i bobl ieuainc dan 18 oed. Rydym wedi ein cymeradwyo i ddarparu hwylio, gwyntsyrffio, caiacio, canŵio, cyfeiriannu, cerdded ceunentydd, arfordiro, dringo a cherdded mynyddoedd ar gyfer ieuenctid dan 18 oed.

Ffmp a CHM

Mae Plas Menai’n aelod o Ffederasiwn Morol Prydain a’r Gymdeithas Hamdden Morol (y gymdeithas fasnachu ar gyfer hyfforddiant morol, siarter a gwyliau).

WiSe

Achredir Plas Menai gan WiSe (WIldlife SafE). Mae ein bywyd gwyllt morol ymhlith y nodweddion mwyaf gwerthfawr a berthyn i fyd natur Prydain, a dylid eu parchu. Mae ein staff wedi derbyn hyfforddiant gan arbenigwyr ar fywyd gwyllt y môr i adnabod rhywogaethau, canfod eu hanes a deall ymddygiad amrywiaeth o rywogaethau y gallant ddod ar eu traws. Maent wedi cael eu dysgu i beidio ag aflonyddu mwy na sydd raid arnynt hefyd. Bydd ein staff yn eich helpu i fwynhau unrhyw fywyd gwyllt a welwch i’r eithaf, tra’n parchu’r holl greaduriaid yr ydym i gyd wrth ein boddau yn eu gweld.

Y Ddeaig Werdd

Mae Plas Menai hefyd wedi cyrraedd Lefel 2 Y Ddraig Werdd am ein harferion amgylcheddol.

Quest

Mae Plas Menai wedi ennill gwobr reoli Canmoliaeth Uchel Quest wedi'i asesiad cyntaf erioed. Mae gwobr y diwydiant hamdden yn asesu arferion a safonau rheoli mewn amrywiaeth o fusnesau hamdden, a Phlas Menai yw'r ganolfan weithgareddau awyr agored gyntaf i gael ei hasesu'n annibynnol gan Quest