Cwrdd â’r Tîm

Mae gan Blas Menai dîm hynod gymwys ac ymroddedig o uwch-hyfforddwyr, hyfforddwyr tymhorol a hyfforddwyr achlysurol ac maent i gyd wedi’u dewis ar sail eu sgiliau, eu profiad, eu brwdfrydedd a’u synnwyr digrifwch!

Fairbairn

Alex Fairbairn

Hogyn lleol o Ynys Môn yw Alex.

Booth

Ollie Booth

Cwblhaodd Ollie y cwrs Hyfforddwr Aml-Chwaraeon 26 wythnos yn 2008

Roberts

Dion Roberts

Yn hanu o Ynys Môn, iaith gyntaf Dion yw’r Gymraeg.

Robinson

Anthony 'Trigger' Robinson

Wedi cwrdd â Trigger, ’wnewch chi byth ei anghofio. Mae’n gymeriad mawr ym mhob ystyr ac yn wirfoddolwr gyda Chwch Achub Blue Peter yr RNLI ym Miwmares ar Ynys Môn.

Charles

Owen Charles

Cyn gweithio ym Mhlas Menai, roedd gan Owen ei gwmni adeiladu bychan ei hun yn lleoli gwythiennau nwy ledled y DG.

Sambrook

Wayne Sambrook

Mae Wayne yn treulio cymaint o amser yn yr awyr agored ag y gall ac mae ei farbaciw haf blynyddol wedi creu cryn enw iddo’i hun yn y gymuned leol

Johnson

Jamie Johnson

Mae Jamie wedi bod yn Brif Hyfforddwr ym Mhlas Menai ers deuddeng mlynedd bellach.

Sheather

John Sheather

Hwylio yw cariad mawr John ac mae wedi croesi’r Iwerydd bedair gwaith fel criw ar fwrdd y Cwch Tal, Stad Amsterdam.

Curtis

Ed Curtis

Yn forwr brwd er pan yn blentyn, mae Ed yn fyfyriwr arall a fynychodd raglen hyfforddi hyfforddwyr y ganolfan

Simpson

Steve Simpson

Mae rhai pobl yn dweud ei fod yn siarad gyda’r gwynt ... mae eraill yn dweud ei fod yn rheoli’r llanw ...

Beaumont

Matt Beaumont

Yn ddoethur mewn Ffisioleg Gymharol (na does neb yma’n gwybod beth ydi hynny chwaith!!).