Ein Partneriaid

Mae Plas Menai’n gweithio’n agos gyda nifer o sefydliadau, yn cynnwys Cyrff Rheoli Cenedlaethol, grwpiau lleol ac amrywiaeth o gwmnïau lleol a chenedlaethol, gyda’r nod o annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr a gweithgareddau awyr agored.

Y sefydliadau a’r cwmnïau rydym yn gweithio â hwy:

Antur Gogledd Cymru: Mae AGC yn trefnu gwyliau gweithgarwch, penwythnosau a digwyddiadau yng Ngogledd Cymru. Mae Plas Menai yn ddarparwr gwasanaeth i AGC.

Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru: Mae ChDGC yn sefydliad a sefydlwyd i gefnogi aelodau’r diwydiant chwaraeon dŵr yng Ngogledd Cymru. Drwy gydweithio’n agos gyda’r sefydliad, mae Plas Menai wedi datblygu a gweithredu sawl rhaglen fynediad yn anelu at gael plant ysgol lleol i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr.

Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru: Mae Plas Menai ‘n aelod o’r Bartneriaeth Awyr Agored a’i nod yw ‘gwella’r cyfleoedd i fwy o bobl leol yng Ngogledd Orllewin Cymru gyflawni eu potensial drwy gyfrwng gweithgareddau awyr agored’.

Clwb Hwylio Pwllheli: Yn gweithio ar y cyd i hybu hwylio yng Ngogledd Cymru.

Cychod Hwylio’r RS: Mae Plas Menai’n Academi Hwylio a Chanolfan Brawf ar gyfer yr RS.

Parciau Talacre (Plas Coch): Mae Plas Menai’n darparu rhaglen haf o weithgareddau chwaraeon dŵr i aelodau Plas Coch.

Pecynnau Gwyllt: Mae Pecynnau Gwyllt yn wasanaeth yn y DG ar gyfer plant Prydain mewn Gwersylloedd Gweithgarwch Haf yn America. Ei ffocws allweddol yw cael plant i fod yn egnïol ac mae’n trefnu lleoliadau gwersyll haf cyffrous yn cynnig antur, ffitrwydd, pêl droed, chwaraeon, y celfyddydau perfformio a marchogaeth i bob oedran. Ar hyn o bryd, mae Plas Menai’n datblygu cyfres o gyrsiau’n darparu hyfforddiant i fyfyrwyr, er mwyn iddynt allu paratoi ar gyfer eu taith.

Chwaraeon Dŵr Cymru: Plas Menai ar y cyd â Chwaraeon Dŵr Cymru’n mynychu sioeau masnach a defnyddwyr.

CIC: Wedi’i lleoli ar y safle ym Mhlas Menai, rydym yn cefnogi CIC drwy ddarparu rhaglenni hyfforddi ar gyfer ei sgwadiau hyfforddi a datblygu.