Rydym yn gofyn i’r rhai sy’n ymweld â Phlas Menai gwblhau holiadur byr am ein gwasanaethau.
Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am hil, rhyw ac anabledd er mwyn ein helpu i ddeall pa grwpiau sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Mae’r wybodaeth a ddarperir i ni gennych chi o gymorth i ni asesu ein safonau gwasanaeth yn barhaus, a darparu gwasanaethau o safon mor uchel ag y bo modd i chi. Mae hefyd o gymorth i ni weld a yw ein polisïau a’n gweithdrefnau’n gweithio i hybu cyfleoedd cyfartal i bawb.

