Os hoffech fynychu un o’n cyrsiau, mae sawl ffordd o archebu.
Yn y Wefan
Archebwch yn Awr – Bydd y wefan yn anfon e-bost at ein staff archebu gyda’ch manylion, teitl y cwrs, y dyddiad rydych ei angen ac unrhyw wybodaeth arall a gyflwynir gennych. Yna, cysylltir â chi gan aelod o’r tîm archebu er mwyn cadarnhau eich archeb ac i gymryd y taliad drwy gyfrwng cerdyn credyd / debyd dros y ffôn.
Sylwer: Nid yw archeb wedi’i chadarnhau hyd nes ein bod wedi derbyn taliad am y cwrs.
Dros y ffôn
Os hoffech siarad yn bersonol gydag aelod o staff, mae ein tîm archebu wrth law yn barod i dderbyn eich galwad. Maent yn barod iawn i helpu a dylent allu ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sydd gennych cyn archebu cwrs. Hefyd, gallant gymryd archebion yn uniongyrchol dros y ffôn gyda cherdyn credyd neu ddebyd.
Mae’r llinellau archebu ar agor
Dydd Llun – Dydd Iau, 8am – 5 pm
Dydd Gwener, 8am – 4.30 pm
Drwy’r post neu dros y ffacs
Os hoffech wneud archeb drwy’r post neu dros y ffacs, lawrlwythwch y ffurflen archebu ac yna ei chwblhau a’i dychwelyd gyda’r taliad priodol. Unwaith fyddwn ni wedi derbyn eich ffurflen archebu a’ch taliad, byddwn yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau eich archeb.
Sylwer: Nid yw archeb wedi’i chadarnhau hyd nes eich bod wedi derbyn eich cadarnhad o’r archeb.
Ffacs
01248 673 939
0845 846 0031 (cyfradd ratach)
Cyfeiriad Post
Plas Menai
Y Ganolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1UE
Yswiriant
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn codi yswiriant personol ar gyfer unrhyw gyrsiau, i'ch gwarchod rhag ofn y bydd raid canslo neu ddod â'r cwrs i ben yn fuan, neu os cewch ddamwain bersonol am reswm y tu hwnt i'ch rheolaeth. Sylwer bod raid i'r rhai sy'n cymryd rhan yn y cyrsiau tramor feddu ar yswiriant priodol.
Talebau Rhodd
Gellir trefnu talebau rhodd ar gyfer unrhyw achlysuron arbennig. Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw ffonio ein Hadran Archebu gyda manylion eich cerdyn credyd, neu lenwi’r ffurflen archebu heb fanylu ynghylch unrhyw gwrs penodol, gan ofyn am daleb am swm penodol, ac yna byddwn ni’n anfon y taleb atoch yn enw pwy bynnag a ddewisir gennych chi. Mae’r rhain yn ddilys am ddeuddeg mis a dim ond am gwrs ym Mhlas Menai y gellir eu cyfnewid. Maent yn drosglwyddadwy ond nid ellir rhoi ad-daliad amdanynt.


