Ym Mhlas Menai, rydym wedi bod yn cynnal cyrsiau hyfforddiant gyrfaol ers pum mlynedd ar hugain. Mae’r cyrsiau arbenigol hyn wedi cael eu datblygu er mwyn arfogi myfyrwyr gyda sgiliau a chymwysterau proffesiynol sy’n angenrheidiol i weithio yn y diwydiant chwaraeon dŵr a iotio.
Pa un ai ydych yn ystyried gyrfa, blwyddyn fwlch neu seibiant yn gweithio, mae’r cymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol yn agor y drws ar gyfleoedd gwaith yn y DG a thramor.
Enw da heb ei debyg: Mae hyfforddwyr eithriadol ymroddedig a phrofiadol, hyfforddiant mewn grwpiau bychain, yr offer diweddaraf a chyfleusterau rhagorol ar y lan yn golygu bod Plas Menai wedi datblygu enw da heb ei debyg am ddarparu hyfforddiant gyrfaol o’r safuchaf yn Ewrop.
Cyfleoedd Gwaith: Yn ogystal â gwella eich siawns o gael gwaith gyda sefydliadau chwaraeon dŵr ac antur rhyngwladol, ceir hefyd gyfleoedd profiad gwaith cyffrous ym Mhlas Menai ar gyfer y rhai sy’n llwyddo ar y cyrsiau hyn.
Beth a gynhwysir?
Mae ein cyrsiau i gyd yn cynnig gwerth am arian rhagorol. Mae ffïoedd y cyrsiau’n cynnwys:
- Llety llawn a’ch prydau i gyd yn ein tai ar y safle 7 niwrnod yr wythnos
- Hyfforddiant gan hyfforddwyr hynod gymwys, ymroddedig a phrofiadol
- Ffïoedd arholiadau a llyfrau log perthnasol
- Dillad a chit gwarchodol, personol
- Defnydd o’r holl offer diweddaraf
- Hyfforddiant mewn grwpiau bychain
- Cyfle i ymuno â chyrsiau ychwanegol ar benwythnosau, yn rhad ac am ddim
- Mynediad am ddim i’r rhyngrwyd
- Defnydd am ddim o’r pwll nofio yn ystod sesiynau’r cyhoedd
- Defnydd am ddim o’r ystafell ffitrwydd yn eich amser rhydd (wedi derbyn cyflwyniad)
Dewch draw i’n gweld i ddysgu mwy ... Dyddiau Agored Am Ddim
Os ydych yn ystyried dilyn gyrfa yn y diwydiant cyffrous hwn ac os hoffech ddarganfod mwy, beth am ddod draw i un o’r dyddiau agored a gynhelir bob blwyddyn gan y ganolfan ar gyfer hyfforddiant gyrfaol. Cynhelir y diwrnod nesaf ddydd Sadwrn 25 Medi 2010.
Gwybodaeth Bellach:Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch â’r ganolfan ar 01248 670 964 neu drwy e-bost info@plasmenai.co.uk
Yn ychwanegol at ein cyrsiau hyfforddiant gyrfaol hirdymor, mae Plas Menai hefyd yn gweithredu rhaglen helaeth o gyrsiau Hyfforddwyr ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi cyrraedd y safon briodol sy’n ofynnol er mwyn dilyn y cwrs cymhwyster. Gweler y categori cwrs priodol am wybodaeth bellach.

