Dyddiau Agored ar gyfer Hyfforddiant Gyrfaol

Diben ein dyddiau agored am ddim ar gyfer hyfforddiant gyrfaol yw darparu gwybodaeth ddefnyddiol i unrhyw un sy’n ystyried dilyn gyrfa yn y diwydiannau chwaraeon dŵr neu iotio. Yn ystod y dydd, bydd y staff wrth law i ateb cwestiynau ac i ddarparu cyngor ynghylch gweithio yn yr awyr agored, yn ogystal ag i edrych ar y rhaglenni hyfforddi sydd fwyaf addas i chi. Hefyd byddwch yn cael cyfle i fynd allan ar y dŵr a gweld rhai o’r lleoliadau hyfforddi rydym yn eu defnyddio.

Mae’r ganolfan yn cynnal nifer o’r dyddiau hyn bob blwyddyn felly os hoffech ddarganfod mwy am hyfforddi a gweithio yn y diwydiant, beth am ddod draw am dro.

Cynhelir y diwrnod agored nesaf ddydd Sadwrn 25 Medi 2010.

Mae’r diwrrnod am ddim ac mae’n cynnwys:

  • Taith o amgylch y ganolfan a’r cyfleusterau
  • Sesiwn gweithgarwch
  • Cyflwyniad ar Hyfforddiant a Gyrfaoedd: yr opsiynau, y cymwysterau a’r profiad ymarferol
  • Sgyrsiau anffurfiol un i un i drafod eich anghenion hyfforddi
  • Cwrdd â’r hyfforddwyr
  • Cwrdd â’r myfyrwyr presennol a’r cyn-fyfyrwyr
  • Cinio Bwffe
  • Llety – 1 noson am ddim (os oes angen – yn dibynnu ar argaeledd)

Cynhelir y diwrnod yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai. Mae’n dechrau am 10.00 ac yn gorffen tua 3pm, gan roi cyfle i chi fynd am dro yn yr ardal leol o amgylch.

Os hoffech archebu lle ar ddiwrnod agored, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen archebu neu fel dewis arall cysylltwch â’r tîm archebu ar 01248 673 943 neu drwy e-bost ar info@plasmenai.co.uk

Os na allwch fynychu unrhyw rai o’r dyddiau agored ar y dyddiadau a nodir ond os hoffech ymweld â’r ganolfan i drafod eich anghenion hyfforddi, cysylltwch â ni a gellir trefnu dyddiad addas.

Dyddiadau yn y Dyfodol

  • 13 Tachwedd 2010