14 Wythnos
Preswyl: £6500.00
Di-Breswyl £6315.00
Newid Rhythm
Yn cael ei reoli gan y llanw a’r tywydd, mae rhythm hwylio iot yn ddihangfa o ddiflastod bywyd bob dydd.
Bydd yr hyfforddiant a’r cyfarwyddyd a gewch yn darparu i chi’r sgiliau, y profiad a’r cymwysterau fyddwch eu hangen i fod yn Gapten hyderus a phroffesiynol, gan eich galluogi i symud ymlaen i’r diwydiant hamdden morol neu fynd â’ch teulu’n hyderus i forio oddi ar y lan mewn iotiau hyd at 24m.
Cymwysterau Hyfforddwr Allweddol
- Capten Arfordirol y GIF
- Iotfeistr y GIF / MCA (os yw’r milltiroedd yn caniatáu)
Am restr lawn o’r tystysgrifau, y dyfarniadau a’r cymwysterau sy’n agored i chi ar y cwrs hwn, lawrlwythwch y PDF os gwelwch yn dda.
Mae’r cwrs 14 wythnos dwys hwn yn rhoi sylw i bob agwedd ar faes llafur yr Iotfeistr, yn cynnwys trin cwch dan hwyl a phŵer, peilota, llunio llwybr a theori. Hefyd, byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn VHF, gwaith Radar, Cymorth Cyntaf, Goroesi yn y Môr a Chynnal a Chadw Injian Ddisl.
Mae amrywiaeth cymwysterau Iotfeistr y GIF / MCA yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac yn galluogi i ymgeiswyr llwyddiannus gael gwaith fel capteiniaid siarter neu fflyd bach, ymgymryd â dosbarthiad iotiau neu fynd â phobl i forio. Hefyd, gall y myfyrwyr sy’n ennill y cymhwyster Iotfeistr fynd i ddysgu Cynllun Morio’r GIF wedi cwblhau cymhwyster Hyfforddwr Morio’r GIF yn llwyddiannus. Gellir cymeradwyo’r ddau gymhwyster yn fasnachol, gan gynnig cyfleoedd gwaith pellach.
Yn ystod y rhaglen PYT, ceir 11 wythnos o forio ymarferol. Mae ein profiad wedi dangos bod modd gwneud rhyw 1750 o fillitroedd o safon ar y môr yn ystod yr 11 wythnos yma. Bydd yr hyfforddeion PYT sydd heb fawr o brofiad morio, neu ddim o gwbl, pan maent yn dechrau ar y cwrs, wedi cronni digon o filltiroedd a phrofiad i gael eu cyflwyno ar gyfer arholiad Capten Arfordirol y GIF / MCA. Bydd raid i hyfforddeion PYT sy’n gobeithio cael eu hasesu ar gyfer Arholiad Iotfeistr y GIF / MCA ddechrau’r cwrs gydag o leiaf 800 o filltiroedd ar y môr wedi’u cofnodi ar fwrdd iot, a chyrraedd safon capten dydd.
Iotiau’r Ganolfan
Mae gan y ganolfan hon iotiau modern. Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael cyfle i ennill profiad ymarferol ar bob iot, a phob cwch cîl hefyd o bosibl.
Mae ein dwy iot wedi’u codio’n fasnachol gan y GIF/MCA fel rhai’n cydymffurfio â chategori 2 (60 milltir o hafan ddiogel). Mae’r ddwy’n gallu cario hyd at 6 o bobl, yn cynnwys y Capten, ceir gwresogi ar y bwrdd ac mae ganddynt Radar a GPS.
Wrth gymryd rhan yn y cwrs hwn, byddwch yn cael cyfle i hwylio rhai o’r dyfroedd mwyaf cyffrous a heriol yn y DG, yn cynnwys arfordir Ynys Môn a Gogledd Cymru, a Môr Iwerddon. Hefyd, mae rhai capteiniaid wedi mentro i fyny i’r Alban ac ar draws i Ynys Manaw.
Profiad Cyn y Cwrs
- Rhaid bod yn 18 oed
- Iotfeistr y GIF / MCA – 800 o filltiroedd wedi’u cofnodi
- Capten Arfordirol y GIF / MCA – byddai peth profiad blaenorol o iotio o fantais
Sut i archebu
Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu lle ar y cwrs hwn, os hoffech wybodaeth bellach neu os hoffech drafod y cwrs ymhellach, cwblhewch y ffurflen isod a bydd rhywun yn cysylltu â chi i’w drafod yn fuan. Fel dewis arall, cysylltwch â’r ganolfan ar 01248 670 964.
Dyddiadau yn y Dyfodol
- 7 Medi 2009 - 11 Rhagfyr 2009
- 25 Ionawr 2010 - 30 Ebrill 2010
- 6 Medi 2010 - 10 Rhagfyr 2010


