Hyfforddwr Hwylio a Gwyntsyrffio

12 Wythnos

Preswyl: £4600.00 (Yn cynnwys modiwl hyfforddi yn Dahab)

Di-breswyl: £3835.00 (Yn cynnwys modiwl hyfforddi yn Dahab)

Troi Angerdd Yn Yrfa!

Mae’r cwrs hwn wedi’i dargedu at y rhai sy’n frwd ynghylch chwaraeon dŵr ac sy’n awyddus i ddatblygu eu hangerdd yn yrfa.

Mae’r ffrâm amser byrrach yn golygu ei bod yn ofynnol i fyfyrwyr fod o safon uwch ym mhob un o’r disgyblaethau cyn mynychu’r cwrs ac mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddim ond dwy gamp: hwylio a gwyntsyrffio.

Does gan bawb ddim 26 wythnos yn rhydd ar gyfer derbyn hyfforddiant ac ar gyfer y rhai sydd eisoes yn forwyr neu’n wyntsyrffwyr brwd, mae’r cwrs hwn yn eu galluogi i wneud cynnydd i lefel hyfforddwr mewn cyfnod byrrach.

Cynhelir y cwrs hwn rhwng misoedd Tachwedd a Mawrth, gan orffen ar adeg pan mae nifer o ganolfannau’n recriwtio staff ar gyfer tymor yr haf.

Cymwysterau Hyfforddwr Allweddol

  • Hyfforddwr Dingi’r GIF
  • Hyfforddwr Dechrau Gwyntsyrffio’r GIF

Am restr lawn o’r tystysgrifau, y dyfarniadau a’r cymwysterau sy’n agored i chi ar y cwrs hwn, lawrlwythwch y PDF os gwelwch yn dda.

Mae’r cymwysterau a’r sgiliau diogelwch fyddwch chi’n eu dysgu ar gwrs Hyfforddi Hwylio a Gwyntsyrffio’n hanfodol ar gyfer dysgu yn yr holl ganolfannau hyfforddi proffesiynol a’r holl ysgolion yn y DG ac mewn nifer o wledydd tramor.

Er mwyn ennill y cymwysterau, byddwch yn derbyn hyfforddiant dwys gan ein staff hynod gymwys, yn cynnwys hyfforddwyr ac arholwyr sy’n arbenigo ar yr holl chwaraeon dŵr a gynigir yn y Ganolfan.

Byddwch hefyd yn cael eich annog i ymarfer a gwella eich sgiliau yn eich amser rhydd ac yn cael defnyddio cit y ganolfan, unwaith yr ydych wedi cael eich clirio fel rhywun ‘diogel’ i’w ddefnyddio gan Gyfarwyddwr y Cwrs neu’r Prif Hyfforddwr.

Er bod y ganolfan yn dawelach yn ystod misoedd y gaeaf, rydym yn ceisio sicrhau bod y myfyrwyr ar gwrs y gaeaf yn ennill rhyw faint o brofiad uniongyrchol, ond mae’r cyfleoedd yn fwy cyfyngedig.

Mae’r cwrs yn cyfuno gyda’r cwrs Hyfforddwr Chwaraeon Dŵr y Gaeaf, lle bo hynny’n briodol, ac mae’r myfyrwyr hefyd yn elwa o’r modiwl dwy wythnos o hyfforddiant sgiliau dwys yn Dahab, Yr Aifft.

Lefel Mynediad

Yn ddelfrydol, dylech allu hwylio a gwyntsyrffio o amgylch cwrs triongl yn gyfforddus.

Sut i archebu

Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu lle ar y cwrs hwn, os hoffech wybodaeth bellach neu os hoffech drafod y cwrs ymhellach, cwblhewch y ffurflen isod a bydd rhywun yn cysylltu â chi i’w drafod yn fuan. Fel dewis arall, cysylltwch â’r ganolfan ar 01248 670 964.

Dyddiadau yn y Dyfodol

  • 23 Tachwedd 09 - 26 Chwefror 2010
  • 22 Tachwedd 10 - 25 Chwefror 2011

Er mwyn symud ymlaen, nodwch y cod isod yn y blwch. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod eich cais yn ddilys, a heb ei greu gan eich cyfrifiadur.