Cyfle i archwilio arfordir Gogledd Cymru a Môr lwerddon a mwynhau byd hwylio iota r un o’n cyrsiau morio poblogiadd.
Tra’n dysgu neu’n gwella eich sgiliau hwylio, cewch ymweld â chilfachau heb eu difetha, porthladdoedd bychain tawel, derbyn croeso cynnes mewn clybiau hwylio a hwylio ar y môr agored, ymhell o sŵn bywyd bob dydd. Bydd ein cyrsiau hefyd yn rhoi cyfle i chi brofi’r antur sy’n gysylltiedig a llunio llwybr, hwylio yn y nos a dod i olwg tir.Er mwyn mwynhau morio ar yr arfordir ac oddi ar y lan i’r eithaf, mae’n bwysig eich body n hyderus, yn ddiogel, yn brofiadol ac yn meddu ar sgiliau. Ein hamcan ni yw eich helpu i ddatblygu’r sgiliau hynny a’ch galluogi i wneud y gorau o’ch amser ar y môr.
Y Môr: Mae bywyd ar y môr yn newid braf o drefn a chaethiwed bywyd bob dydd. Bydd eich cwrs yn cael ei reoli gan y llanw, y mŵr, y gwynt a’r tywydd. Bydd eich hyfforddwyr yn llunio’r cwrs i sicrhau eich body n gwneud y gorau o’ch amser ar y môr a byddwch yn dysgu sut i weithio’r llanw a chadw llygad ar effeithiau gwynt a thywydd, a fydd yn effeithio ar yr hyn yr ydych yn ei wneud bob dydd a’r milltiroedd a deithir gennych.
Gwybodaeth Gyffredinol: Wedi’r sesiynau briffio cyflwyniadol ar y nos Sul neu Wener, byddwch yn derbyn dillad dal dwr ac yn mynd i Farina’r Felinheli lle bydd ein cychod Sunfast 37 a Starlight 35 yn aros amdanoch. Byddwch yn byw ac yn cysgu ar fwrdd y cwch yn ystod y cwrs. Fel rheol bydd ein cyrsiau wythnos yn gorffen tua chanol neu ddiwedd y prynhawn ar y diwrnod olaf, a’r cysiau penwythnos ddiwedd y prynhawn ar y dydd Sul, ond mae hyn yn dibynnu ar y llanw.

