Teithiau Caiac

Darganfyddwch yr hwyl a’r antur a brofir ar gaiac drwy ymuno â’r criw cynyddol o bobl sydd wedi profi ein teithiau anturus a threfnus sy’n cynnig gwerth rhagorol am arian.

Mae gennym dair taith i’r Alban eleni, gan ddechrau fis Mai yn ardal hardd Mull a’i hynysoedd oddi ar y lan. Fis Medi, rydym yn mynd i Ynysoedd Slate ger Oban ac mae ein taith olaf i’r Alban yn daith cwch agored i arfordir y gorllewin. Mae ein taith i’r Iwerddon i’r ynysoedd cwbl ryfeddol oddi ar arfordir Connemara.

Ymhellach o gartref, byddwn yn profi dŵr gwyn Alpau’r Awstria ac, am y tro cyntaf, rydym yn cynnal taith cwch agored i ardal Ardeche yn Ffrainc.

Byddwn yn dychwelyd i Alasga fis Mehefin ar gyfer antur gaiacio môr wefreiddiol arall. Mae ein taith rhwyfo môr yn Alasga fis Mehefin yn ffordd wych o archwilio’r rhan hyfryd yma o’r byd.

Ein nod yw darparu hyfforddiant o safon, rhwyfo anturus a diogelwch grŵp rhagorol mewn lleoliadau canŵio gwych. Byddwch mewn dwylo da gyda staff ein teithiau. Mae eu profiad byd-eang yn galluogi i chi ymlacio a mwynhau’r rhwyfo.

Mae’r teithiau i gyd angen profiad blaenorol a gallu i rwyfo. Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’r cyrsiau hyn, cysylltwch â’r Ganolfan cyn archebu. Mae pecynnau gwybodaeth ar gael ar gyfer pob cwrs, yn manylu ynghylch amcanion y cwrs, y cynlluniau’n fras a’r argymhellion ar gyfer eich cit personol.

Teithiau Teilwredig: Rydym hefyd yn cynnig arweiniad ynghylch teithiau ar gyfer grwpiau sydd am drefnu eu taith eu hunain yn y DG neu dramor. Cysylltwch â’r Adran Archebu am fanylion

Lefels

Canolraddol

Unwaith rydych wedi meistroli’r sylfeini, byddwch yn awyddus i symud ymlaen. Mae’r cyrsiau canolraddol hyn yn datblygu eich sgiliau a’ch technegau, gan feithrin eich hyder i wynebu amodau mwy heriol.
Canolraddol

Uwch

Mae’r cyrsiau hyn ar gyfer cyfranogwyr profiadol. Y nod yw perffeithio eich technegau gan eich galluogi i ragori’n arbennig o dda a chael y gorau o’r maes o’ch dewis.
Uwch