Mae ein hwythnosau antur yn addo antur, hwyl a her gyda ffrindiau newydd a chyfle i ddysgu sgiliau newydd.
Mae gennym leoliad perffaith ar gyfer antur awyr agored gyda dyfroedd cysgodol afon Menai a chopaon Eryri ar garreg ein drws. Bydd ein hyfforddwyr hynod fedrus a chymwys yn gwneud yn siwr eich body n mwynhau profiad dysgu llawn hwyl a diogel, gyda’r pwyslais ar ddigon o weithgarwch ymarferol.
Fel rhan o’n cyrsiau gweithgarwch, gallwch roi cynnig ar bethau nad oeddech yn gwybod oedd yn bosibl, a darganfod sgiliau newydd. Mae ein cyrsiau i gyd yn seiliedig ar ganllawiau cyrff rheoli ac mae llawer ohonynt yn arwain at ddyfarniadau hyfedredd a gydnabyddir yn genedlaethol. Bydd ein Rhieni Tý yn gofalu amdanoch oddi ar y dŵr gan drefnu amrywiaeth o weithgareddau gyda’r nos i gadw pawb yn hapus ac i sicrhau eich body n gwybod ble rydych i fod a pha bryd.
Canllaw i Rhieni: Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod eich plant yn y dwylo diogelaf posibl, ddydd a nos. Mae ein safonau ymhlith yr uchaf yn y diwydiant gwyliau antur. Trwyddedir y Ganolfan dan y rheoliadau ar gyfer trwyddedu gweithgareddau antur i ddarparu gweithgareddau ar gyfer pobl ieuainc dan 18oed, ac mae wedi’i chydnabod gan y GIF ac UCP.
Mae gennym system o ofal a goruchwyliaeth 24-awr ar bobl ieuainc drwy gyfrwng hyfforddwyr a rhieni tý presewyl. Rydym hefy yn sicrhau bod aelod pob cwrs yn cael cwch, canw neu wyntsyrffiwr ar gyfer ei ddefnydd penodol ef / hi drwy gydol y cwrs. Mae’r llety fel arfer y nein tai ar y safle, mewn ystafelloedd gyda hyd at chew gwely. Goruchwylir pob tý. Fel dewis arall, gellir defnyddio llety yn y prif floc preswyl gyda rhiant tý yn goruchwylio.
Hwyl Ar ac Oddi Ar y Dŵr: Does dim munud diflas i’w gael ym Mhlas Menai –ar neu oddi ar y dŵr! Oddi ar y dŵr, mae digon i’w weld a’i wneud, yn cynnwys tripiau i’r traeth, Castell Caernarfon neu’r sinema. Hefyd rydym yn cynnal barbaciw wythnosol a gemau, chwaraeon ac adioniant amrywiol ar gyfer opb grŵp oedran.
Un Pris a Thawelwch Meddwl: Mae Plas Menai’n cynnig gwerth rhagorol am arian. Mae ein prisiau’n cynnwys:
- Gofal 24-awr gan rieni ty a hyfforddwyr
- Cyrsiau trefnus gan hyfforddwyr sydd wedi cymhwyso’n genedlaethol
- Llety mewn ystaffelloedd 2-6 gwely mewn tai dan oruchwyliaeth neu yn y brif Ganolfan
- Prydau iach i fodloni pob blas ac archwaeth
- Yr holl ddillad ac offer gwarchodol
- Ymweliadau ag atyniadau lleol ac adloniant gyda’r nos
- Defnydd o gyfleusterau helaeth Plas Menai ar safle hunangynhwysol ar lan y môr
- Gwasanaeth casglu / hebrwng i orsaf reilffordd Bangor
Archebwch 4 lle a chewch ostyngiad o 5%

