Dyddiau Blasu Am Ddim i Ysgolion

Os ydych yn bwriadu cynnal taith weithgarwch ar gyfer eich ysgol, ein Dyddiau Blasu i Ysgolion yw’r ffordd ddelfrydol i chi weld drosoch eich hun gymaint sydd gan Blas Menai i’w gynnig. Mae’r ganolfan yn cynnig dau o’r dyddiau hyn y flwyddyn, un yn nhymor yr hydref ac un yn nhymor y gwanwyn.

Felly beth am ddod draw i weld beth sydd gan Blas Menai i’w gynnig o ran rhaglenni gweithgarwch a chyfleusterau, a sut allwn ni ddarparu profiadau hwyliog, heriol ac addysgol i’ch disgyblion a’ch myfyrwyr. Mae’r diwrnod am ddim ac yn cynnwys llety am ddim am noson os oes angen.

Mae’r diwrnod yn cynnwys:

  • Taith o amgylch y ganolfan a’i chyfleusterau
  • Sesiynau gweithgarwch
  • Cyflwyniad i Ysgolion
  • Sgwrs anffurfiol i drafod eich anghenion hyfforddi
  • Cwrdd â myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr
  • Cinio Bwffe
  • Llety am Ddim – 1 noson GaB (os oes angen – yn dibynnu ar argaeledd)

Dyddiadau yn y Dyfodol

  • 16 Hydref 2010

Cynhelir y dyddiau yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai. Maent yn dechrau am 10.00am ac yn para tan tua 5.00pm.

Os hoffech archebu lle ar ddiwrnod blasu, lawrlwythwch, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen archebu os gwelwch yn dda, neu cysylltwch â’r tîm archebu ar 01248 673 943 neu drwy e-bost ar bookings@plasmenai.co.uk

Os na allwch fynychu unrhyw rai o’r dyddiau blasu ac os hoffech ddod draw i’r ganolfan i drafod ymweliad, cysylltwch â ni ac fe allwn drefnu dyddiad addas.