Llety

Cynlluniwyd ein canolfan lwyddiannus gan feddwl am eich cyfforddusrwydd chi ac mae’n parhau i gynnig awyrgylch cyfeillgar, cynnes ac atyniadol. Gall y ganolfan roi lle i hyd at 67 o bobl ac mae’r ystafelloedd gwely’n gyfforddus gyda gwlâu sengl a chwiltiau. Mae’r rhan fwyaf o’r ystafelloedd yn cynnwys dau wely sengl, ond mae gennym ambell ystafell sengl* a rhai gyda thri neu bedwar o wlâu ar gyfer teuluoedd a grwpiau. Mae’r ystafelloedd i gyd yn ensuite gyda chypyrddau dillad yn y waliau, cyfleusterau gwneud te a choffi a theledu. Darperir dillad gwlâu ond rydym yn gofyn i chi ddod â’ch tywelion eich hun. Mae rhai ystafelloedd yn mwynhau golygfa o’r môr.

*dim ond ar rai adegau o’r flwyddyn y mae ystafelloedd sengl ar gael ac mae’n rhaid talu ffi atodol o £10.00 y noson (rhaid i chi gadarnhau’r argaeledd gyda’n hadran archebu gan mai dim ond ychydig iawn o ystafelloedd sengl sydd gennym).

Tai ar y safle: Hefyd mae gan y ganolfan lety ar y safle mewn tai, sy’n ddelfrydol ar gyfer clybiau, ysgolion a grwpiau. Mae’r llety’n hunangynhaliol ac yn cynnwys ystafelloedd gwely gyda nifer o wlâu, gydag ystafelloedd ymolchi a chyfleusterau golchi dillad a rennir. Ym mhob un o’r tai ar y safle, ceir hefyd ystafell wely sengl sy’n ddelfrydol ar gyfer oedolyn yn goruchwylio neu aelod o staff.

Llety Gweithgarwch

Os ydych yn meddwl am ymweld â Gogledd Cymru ac yn chwilio am rywle i aros, beth am aros ym Mhlas Menai ?

Does dim rhaid i chi fod yn cymryd rhan yn un o’n cyrsiau i aros yn y ganolfan. Gyda 33 o ystafelloedd gwely en-suite cyfforddus gyda chyfleusterau gwneud te a choffi a theledu, rydym yn cynnig croeso cynnes a gwerth rhagorol am arian. Mae’r llety’n cynnwys brecwast ble ceir dewis o rawnfwydydd, tôst a jamiau, opsiwn wedi’i goginio a sudd ffrwythau.

Wedi’i leoli ar lan Afon Menai, mae Plas Menai’n gyfleus iawn ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri a thref hanesyddol Caernarfon ac mae’n lleoliad perffaith ar gyfer archwilio’r ardal drawiadol o amgylch.

Prisiau

  • Tymor Tawel £25.00 y pen y noson
  • Tymor Brig £30.00 y pen y noson

Llety i Grwpiau

Os ydych yn grŵp yn chwilio am lety, dyma’r lle i chi.

Mae gan Blas Menai dri thŷ ar y safle sy’n ddelfrydol ar gyfer grwpiau. Pa un ai ydych yn cynllunio taith ddringo i Eryri, cerdded yn y parc cenedlaethol neu weithgaredd grŵp o fath arall, gall ein tai hunangynhaliol ddarparu llety ar gyfer hyd at 43 o bobl.

Mae’r tai yn dal:

  • Tŷ 1 yn cysgu 13
  • Tŷ 2 yn cysgu 15
  • Tŷ 3 yn cysgu 15

Mae’r llety’n costio £270.00 y tŷ y noson ac yn cynnwys brecwast yn y brif ganolfan, gan gynnig gwerth rhagorol am arian.

Os oes gennych ddiddordeb mewn aros ym Mhlas Menai, cysylltwch â’n tîm archebu ar 01248 673 943 i wirio’r argaeledd ac i wneud archeb.