Wedi’i agor yn 2006, mae gan ein trac mynydd ar-y-safle bedwar llwybr dolen yn cynnig gwahanol lefelau o her, gan gysylltu mwy na 1km o feicio. Mae’r ‘Cylch Mawr’, ‘Y Corcsgriw’, ‘Cynffon y Neidr’ a’r ardal sgiliau, ‘Cadwyn Gyswllt’, i gyd yn darparu her newydd i’r beiciwr.
Mae’r trac ar agor i’w ddefnyddio gan y cyhoedd ond chi fydd yn gyfrifol ac yn atebol os digwydd rhywbeth wrth i chi ddefnyddio’r trac. Rhaid cadw at ganllawiau’r trac drwy’r amser ac mae’n rhaid i’ch beic fod mewn cyflwr da. Nid yw Plas Menai’n llogi beiciau na chit. Mae’n rhaid i bawb sydd dan 14 oed gael eu goruchwylio gan oedolyn (dros 18 oed).
Amseroedd Agor i’r Cyhoedd
Medi i Fawrth
Llun - Sul: 09.00 - 17.00
Ebrill i Awst
Llun - Sul: 09.00 - 21.00
Am Ddim
Grwpiau
Os hoffech ddefnyddio’r trac fel grŵp, rydym yn cynnig sesiynau hanner diwrnod gyda neu heb arweinydd beicio mynydd cymwys.
Sesiynau Hanner Diwrnod (ar gael 7 niwrnod yr wythnos)
09.30 - 12.30 a 13.30 - 16.30
- Sesiynau Hanner Diwrnod (yn defnyddio eich Offer eich hun a Hyfforddwr): £50 y grŵp
- Sesiwn Hanner Diwrnod gyda Hyfforddwr o Blas Menai: £10 y pen (Yn cynnwys llogi beic, helmed, menig a hyfforddwr)
Rhybudd Diogelwch: Rydym yn argymell bod pawb sy’n beicio’n gwisgo helmed a menig. Dylech feicio o fewn eich gallu. Os ydych yn mwynhau neidio, rydym yn argymell eich bod yn gwisgo cit priodol i warchod eich corff.

