Ar hyn o bryd, mae Plas Menai’n recriwtio ar gyfer nifer o swyddi hyfforddwyr tymhorol ar gyfer tymor 2010. Mae’r swyddi a ganlyn ar gael yn ystod 2010
Hyfforddwyr Lefel 1
Cytundebau o hyd amrywiol
Cyflog - £13,070 pro rata – llety a phrydau llawn ar gael am £35 yr wythnos ynghyd â dillad gwarchodol personol
Mae cyfle rhagorol yn bodoli ar gyfer hyfforddwyr chwaraeon dŵr cymwys i weithio yn un o brif ganolfannau chwaraeon dŵr y DG. Yn ddelfrydol, bydd gennych gymwysterau niferus mewn gweithgareddau fel hwylio, canŵio, gwyntsyrffio a gyrru cychod pŵer. Mae’r ganolfan yn cynnal amrywiaeth eang o gyrsiau technegol a chyrsiau addysgu hyfforddwyr, cyrsiau i ysgolion a rhaglenni cymunedol. Byddwch yn cael cyfle i ennill cymwysterau hyfforddi pellach a chewch wneud defnydd rhad ac am ddim o’r offer gweithgarwch yn y ganolfan er mwyn datblygu eich sgiliau
Hyfforddwyr Lefel 2
Ebrill – Hydref
Cyflog - £14,986 pro rata – ynghyd â dillad gwarchodol personol
Mae cyfle rhagorol yn bodoli ar gyfer hyfforddwyr chwaraeon dŵr cymwys a phrofiadol iawn i weithio yn un o brif ganolfannau chwaraeon dŵr y DG. Yn ddelfrydol, bydd gennych gymwysterau niferus mewn gweithgareddau fel hwylio, canŵio, gwyntsyrffio a gyrru cychod pŵer a bydd gennych brofiad blaenorol o weithio mewn canolfannau chwaraeon dŵr.Mae’r ganolfan yn cynnal amrywiaeth eang o gyrsiau technegol a chyrsiau addysgu hyfforddwyr, cyrsiau i ysgolion a rhaglenni cymunedol. Byddwch yn cael cyfle i ennill cymwysterau hyfforddi pellach a chewch wneud defnydd rhad ac am ddim o’r offer gweithgarwch yn y ganolfan er mwyn datblygu eich sgiliau
Hyfforddwyr Lefel 3
Mawrth – Tachwedd
Cyflog - £17,000 pro rata – ynghyd â dillad gwarchodol personol
Mae cyfle rhagorol yn bodoli ar gyfer hyfforddwyr chwaraeon dŵr cymwys iawn i weithio yn un o brif ganolfannau chwaraeon dŵr y DG. Yn ddelfrydol, bydd gennych gymwysterau niferus mewn gweithgareddau fel hwylio, canŵio, gwyntsyrffio a gyrru cychod pŵer. Hefyd, bydd disgwyl i chi arwain grwpiau mawr o ddisgyblion ysgol. Mae’r ganolfan yn cynnal amrywiaeth eang o gyrsiau technegol a chyrsiau addysgu hyfforddwyr, cyrsiau i ysgolion a rhaglenni cymunedol. Byddwch yn cael cyfle i ennill cymwysterau hyfforddi pellach a chewch wneud defnydd rhad ac am ddim o’r offer gweithgarwch yn y ganolfan er mwyn datblygu eich sgiliau.
Hyfforddwyr Lefel 6
Mawrth - Tachwedd
Cyflog - £23,160 pro rata - ynghyd â dillad gwarchodol personol
Hwylio Dingi
Hyfforddwr Dingi’r GIF gyda chymwysterau arbennig o dda ac a fyddai’n gallu cynnal amrywiaeth eang o gyrsiau hwylio dingi a chyrsiau addysgu hyfforddwyr, yn ogystal â chyfarwyddo ysgolion a grwpiau, fel y bo angen.
Caiacio / Mynydda
Hyfforddwr Caiac gyda chymwysterau arbennig o dda. Hyfforddwr lefel 5 os oes modd ac a fyddau’n gallu cynnal cyrsiau addysgu hyfforddwyr yn ogystal â chyfarwyddo ysgolion a grwpiau, fel y bo angen. Byddai cymwysterau mynydd o fantais hefyd.
Mae’r ganolfan yn cynnal amrywiaeth eang o gyrsiau technegol a chyrsiau addysgu hyfforddwyr, cyrsiau i ysgolion a rhaglenni cymunedol. Byddwch yn cael cyfle i ennill cymwysterau hyfforddi pellach a chewch wneud defnydd rhad ac am ddim o’r offer gweithgarwch yn y ganolfan er mwyn datblygu eich sgiliau.
Am wybodaeth bellach neu ffurflen gais, cysylltwch â Jamie Johnson ym Mhlas Menai ar 01248 670 964 neu anfonwch e-bost at info@plasmenai.co.uk

