Telerau ac amodau

Uwchgysylltiadau

Nid oes raid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau a ddanogsir yn y wefan hon. O’r wefan hon: Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig. Ni ddylai’r ffaith bod cyswllt wedi’i restru olygu ein bod yn ei gymeradwyo mewn unrhyw ffordd. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

Gwarchod Rhag Firws

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunyddiau wrth eu cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am golli, tarfu ar na difrodi eich data neu eich system gyfrifiadurol wrth ddefnyddio deunydd yn deillio o wefan Plas Menai.

Ymwadiad

Yr ydym yn diweddaru’r wybodaeth, y manylion cyrsiau, yr offer a’r prisiau a geir yn y wefan hon yn rheolaidd a chyn belled ag y gwyddom ni, mae’r holl gynnwys yn gywir. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau manwl-gywirdeb yr holl wybodaeth o’r fath, a’r prisiau, gwaetha’r modd, mae camgymeriadau’n digwydd weithiau a gall y manylion newid heb rybudd. Ni all Plas Menai na Chyngor Chwaraeon Cymru dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau, anghysonderau neu hepgoriadau, nac am unrhyw fater sy'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd neu'n codi o’r wybodaeth a gyhoeddir yn y wefan hon. Felly, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwirio holl fanylion y cwrs rydych wedi’i ddewis gyda’n Tîm Archebu pan ydych yn gwneud eich archeb.